|
Comisiwn y Senedd |
|
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Llun, 15 Rhagfyr 2025 |
|
||||
|
Amser: |
10. - 12.30 |
|
||||
|
|
||||||
|
|
||||||
|
Cofnodion: SC(6)2025(11) |
||||||
|
|
|
|
||||
|
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Lesley Griffiths AS Adam Price AS |
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Eleanor Wrighton, Uwch Reolwr Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau Joanna Adams, Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad, Pwyllgorau Gwyneth Oakman, Pennaeth Gwasanaethau Gweithwyr a Lles Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Materion sy’n codi: Derbyniodd y Comisiynwyr gofnodion 3 Tachwedd, gyda gwelliant i egluro bod Lesley Griffiths wedi ymgymryd â'r portffolio Llywodraethu, ac y byddai'r Llywydd yn cadw cyfrifoldebau’r portffolio Cyllid/Cyllideb.
2 Cyllideb Atodol 2025-26
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2025-26. Argymhellwyd Cyllideb Atodol sy'n lleihau'r gyllideb gyffredinol £1.042 miliwn a'r gofyniad arian parod net £0.542 miliwn, yn ogystal ag ailddyrannu £4.182 miliwn o wariant o refeniw i gyfalaf.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yng nghynnig cyllidebol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026. Fe wnaethant nodi a chymeradwyo'r Memorandwm Esboniadol, a
- bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau £0.460 miliwn, yn ychwanegol at y gostyngiad yn y cyllid Yswiriant Gwladol;
- bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau’r gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer prisio cynllun Pensiwn yr Aelodau £0.500 miliwn, o £1.000 miliwn i £0.500 miliwn; a
- bod £4.182 miliwn o gyllideb 'refeniw' yn cael ei ailddosbarthu fel 'cyfalaf' i adlewyrchu disgwyliadau gwariant yn fwy cywir (gan nodi bod gwaith y Senedd yn amodol ar gymeradwyaeth ar wahân).
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu bod yn fodlon ar yr addasiad cyfalaf / refeniw i adlewyrchu canlyniad y drafodaeth ar yr ad-daliad ardrethi (tybiodd y byddai £644k yn cael ei gadw i gyflymu gwaith yn y Senedd); a nododd y llythyr drafft at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Fe wnaethant ddirprwyo'r cytundeb terfynol ar lythyr esboniadol ychwanegol ac addasiadau i Femorandwm Esboniadol y gyllideb i'r Llywydd, i adlewyrchu'r penderfyniad ynghylch yr ad-daliad.
Byddai’r Gyllideb Atodol ddrafft a’r llythyr yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid ac wedi hynny byddai’r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod, a chaiff ffigurau diwygiedig y gyllideb eu cynnwys yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2025.
3 Materion y Seithfed Senedd
3.a Pontio Etholiadol – Fframwaith Cyflwyno a Hyfforddi’r Rhaglen Groeso
Cyflwynwyd cynigion i’r Comisiynwyr ar gyfer y sesiynau briffio cyflwyniadol a'r rhaglen a datblygu hyfforddi i Aelodau a staff cymorth yn y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf ar ôl yr etholiad.
Trafododd y Comisiynwyr y byddai elfennau o'r 'rhaglen groeso' y dylid eu hystyried yn hanfodol, er enghraifft yr hyfforddiant sylfaenol ar safonau ymddygiad, a chyfrifoldebau/dyletswyddau cyfreithiol yr Aelod. Byddai'r rhain yn cwmpasu ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau fel cyflogwr a rheolwr safle yn ogystal â meysydd eraill lle mae risg gyfreithiol neu risg i enw da os na chaiff yr Aelodau eu hysbysu. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle roeddent yn teimlo y dylid darparu gwybodaeth yn gynt na mewn Seneddau blaenorol, a hynny i adlewyrchu bod tymor pedair blynedd yn golygu ei bod yn bwysig dechrau busnes mewn modd gwybodus cyn gynted â phosibl.
Cytunodd y Comisiynwyr, er nad oes gan y Comisiwn sail i orfodi hyfforddiant i Aelodau, eu bod yn dymuno ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol i ofyn am gymorth i orfodi hyfforddiant, neu i olygu bod y Senedd mor agos â phosibl at wneud gwybodaeth hanfodol o'r fath yn ofyniad i bawb.
4 Arolwg Boddhad yr Aelodau a’u Staff Cymorth ar gyfer 2025
Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad yr Aelodau a Staff Cymorth ar gyfer 2025, a gynhaliwyd rhwng 9 Medi a 3 Hydref. Dyma oedd y trydydd arolwg o’r Aelodau a Staff Cymorth yn y Chweched Senedd ac roedd y sgoriau’n bwydo i mewn i ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol, a fyddai'n cael eu cyflwyno yn yr adroddiad blynyddol.
Yn ogystal â'r cwestiynau safonol, ceisiwyd gwybodaeth i helpu i lywio gwaith cynllunio'r Seithfed Senedd a blaenoriaethu gwybodaeth a datblygiad ar gyfer yr Aelodau.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, byddai crynodeb o'r canlyniadau yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'i gyhoeddi.
5 Arolwg Urddas a Pharch
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr ar weithgarwch sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn y Comisiwn, a chawsant ganlyniadau'r arolwg urddas a pharch diweddar sydd, am y tro cyntaf, yn cynnwys canlyniadau ar draws tri maes; Aelodau/staff cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a defnyddwyr adeiladau trydydd parti (deiliaid pasys).
Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg a’r camau gweithredu a nodwyd. Roeddent yn cytuno y dylid rhannu adroddiad yr arolwg urddas a pharch â’r Pwyllgor SafonauYmddygiad, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau Annibynnol, a’r Adolygiad Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd, gyda disgwyliad y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyhoeddi’r adroddiad.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gweithgarwch a wnaed ers mis Ionawr 2025; ac ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ei gynigion ar gyfer gwneud y broses safonau yn fwy annibynnol a gwella'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd â phryderon am urddas a pharch.
6 Comisiwn y Chweched Senedd – dull o adrodd ynghylch gwaddol
Mae egwyddorion llywodraethu'r Comisiwn yn disgwyl y dylai'r Comisiwn, o bryd i’w gilydd, gasglu enghreifftiau o arfer da a gwersi a ddysgwyd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar ddull o gasglu ystyriaethau ynghylch gweithrediad Comisiwn y Senedd yn ystod y Chweched Senedd a'r gwersi a ddysgwyd er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer Comisiwn y Seithfed Senedd, a fydd yn gweithredu yng nghyd-destun senedd newydd a mwy ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf.
7 Papurau i'w nodi:
7.a Llythyr ymgynghori gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau 4 Tach 2025
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau yn gwahodd sylwadau ar ddarpariaethau'r Bil Atebolrwydd Aelodau, ynghyd â'r llythyrau ymateb gan y Llywydd a'r Prif Weithredwr a'r Clerc.
7.b Llythyr yr Pwyllgor Cyllid ynghylch Adolygiad o Weithdrefnau Cyllideb Atodol a Phrotocol Proses y Gyllideb
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar adolygiad o weithdrefnau cyllideb atodol a phrotocol proses y gyllideb.
7.c Llythyr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch y Bil Atebolrwydd Swyddi Cyhoeddus 6 Tach 2025
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwahodd barn ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Atebolrwydd Swyddi Cyhoeddus.
7.d Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2024-25
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2025 yn dilyn y sesiwn graffu a gynhaliwyd ar 2 Hydref. Byddai’r Comisiynwyr yn cael ymateb drafft yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2026.
7.e Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
8 Unrhyw fater arall
Nododd y Comisiynwyr y bydd Aelodau'n cael eu gwahodd i ymweld ag oriel wylio’r Siambr ar adegau penodol yn y flwyddyn newydd, os ydynt yn dymuno gweld y cynnydd ar waith y Siambr.